Adroddiad ar Ymchwiliad y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol (2012) i Gyfraniad Fferyllfeydd Cymunedol i Wasanaethau Iechyd Cymru

 

Adroddiad ar Gynnydd gan Lywodraeth Cymru

Medi 2014

 

 

1. Derbyniwyd y saith argymhelliad a gynhwyswyd yn adroddiad 2012  ymchwiliad y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol gan fy rhagflaenydd.  Ar y pryd cefais y fraint o gadeirio'r pwyllgor felly rwyf i'n gwbl ymwybodol o ehangder a chymhlethdod y materion a godwyd yn y dystiolaeth ac a ystyriwyd gan y Pwyllgor.

 

2. Unwaith eto mae cyhoeddiad diweddar yn y BMJ[1] wedi nodi bod gan fferyllfeydd cymunedol y potensial i gynnig mynediad hwylus a theg i ofal iechyd, yn enwedig i unigolion sy'n byw yn ein hardaloedd mwyaf difreintiedig. Mae hyn yn adlewyrchu polisi sefydledig Llywodraeth Cymru sy'n cydnabod ac yn cefnogi fferyllfeydd cymunedol fel cyfranwyr allweddol yn y tîm gofal iechyd cymunedol a sylfaenol boed yn rhoi cyngor ar ofal iechyd, yn cefnogi unigolion a chanddynt gyflyrau hirdymor, yn darparu brechiadau ffliw neu'n defnyddio'u cyrhaeddiad i hyrwyddo'r agenda iechyd cyhoeddus ehangach. Nid yw bellach yn briodol ystyried mai rôl fferyllfeydd cymunedol yw rhoi presgripsiynau'n unig, er bod hyn yn parhau'n swyddogaeth bwysig; yn hytrach mae angen eu hystyried yn aelodau o'r tîm amlddisgyblaethol sy'n canolbwyntio ar ddarparu gofal iechyd darbodus.

 

3. Ar adeg craffu'r Pwyllgor yn 2011, roedd gwaith eisoes yn mynd yn ei flaen i gynyddu cymaint â phosibl ar gyrhaeddiad fferyllfeydd cymunedol a gwireddu eu holl botensial fel darparwyr gofal iechyd. Mae'r saith argymhelliad a wnaed gan y Pwyllgor wedi'u mewngorffori ym mholisïau cyfredol Llywodraeth Cymru ar gyfer fferyllfeydd cymunedol ac maent yn cydnabod y cyfraniad y gall y proffesiwn fferyllol ei wneud i wella iechyd a lles dinasyddion Cymru.

 

Cynllunio'r Gwasanaeth ac Asesiad o Anghenion Fferyllol

 

4. Mae polisïau Llywodraeth Cymru ar gyfer iechyd, gan gynnwys Gosod y Cyfeiriad: Gwasanaethau Cychwynnol a Chymuned – Rhaglen Strategol ar gyfer Cyflenwi 2010 a'n polisi mwy diweddar ar Ofal Iechyd Darbodus yn hyrwyddo gweithio amlddisgyblaethol ac mae'n rhoi'r unigolyn wrth wraidd yr holl wasanaethau. Mae hygyrchedd rhwydd a pharod fferyllfeydd cymunedol i'r cyhoedd a'u hagosatrwydd at feddygfeydd teuluol yn cyflwyno cyfleoedd i ddatblygu cyd-drefniadau cryfach er budd cleifion.

 

5. I gefnogi rôl fferyllfeydd cymunedol o ran darparu gwasanaethau iechyd ehangach, mae'r papur gwyn Iechyd Cyhoeddus yn cynnwys cynnig a fydd yn ei gwneud yn ofynnol i Fyrddau Iechyd Lleol gynnal asesiad o anghenion fferyllol. Mae'r cynnig hwn wedi derbyn cefnogaeth eang a, chyhyd â bod y papur gwyn yn cael cefnogaeth y Cynulliad Cenedlaethol, bydd asesu anghenion fferyllol yn cael ei fewngorffori yng nghanllaw cynllunio Llywodraeth Cymru o 2016 yn rhan o asesiad o anghenion iechyd cyffredinol y boblogaeth leol.

 

6. Yn y cyfamser, bydd disgwyl i Fyrddau Iechyd Lleol ddatblygu'u systemau i asesu anghenion fferyllol yn rhan o'u cynllunio ar lefel leol sy'n canolbwyntio ar glystyrau meddygfeydd teulu. Bydd y canllaw ar gynllunio ar gyfer cynlluniau tymor canolig integredig tair blynedd yn cael ei gyhoeddi yn ddiweddarach eleni i gefnogi cynllunio ar gyfer 2015-16 a thu hwnt. Bydd hwn yn ei gwneud yn ofynnol i Fyrddau Iechyd Lleol ddangos y camau sy'n cael eu cymryd i ail-gydbwyso’u systemau gofal iechyd i gryfhau gofal cymunedol a sylfaenol a sefydlu timau gofal amlddisgyblaethol lle mae'r gweithwyr iechyd proffesiynol gwahanol yn defnyddio'u holl sgiliau ac yn gweithredu ar frig eu trwydded glinigol. Bydd Llywodraeth Cymru'n cyhoeddi cynllun ar gyfer y GIG yng Nghymru wedi'i arwain gan ofal cymunedol a sylfaenol ym mis Hydref i arwain a chyfarwyddo'r broses gynllunio hon a gosod blaenoriaethau a cherrig milltir ar gyfer gwella gwasanaethau i hybu'r gwaith o ddarparu ledled Cymru.

 

Cydweithio

 

7. Tynnwyd sylw at weithio amlddisgyblaethol effeithiol yn adroddiad 2012 y Pwyllgor a phwysleisiwyd yr angen am gydweithio agosach rhwng gweithwyr iechyd proffesiynol, yn enwedig rhwng meddygon teulu a fferyllwyr cymunedol. Roedd ymateb Llywodraeth Cymru'n cytuno â chasgliad y Pwyllgor mai cyfrifoldeb proffesiynau a'r Byrddau Iechyd Lleol yw sicrhau y ceir cydweithio trwy gyd-ddealltwriaeth a pharch. Ym mis Gorffennaf 2011, cyhoeddodd Coleg Brenhinol yr Ymarferwyr Cyffredinol a'r Gymdeithas Fferyllol Frenhinol ddatganiad ar y cyd ar gydweithio er budd cleifion. Er bod hwn yn gam i'r cyfeiriad cywir sydd i'w groesawu, rwyf i'n parhau i ddisgwyl i Fyrddau Iechyd Lleol a gweithwyr iechyd proffesiynol ar lefel clwstwr lleol wireddu'r cytundeb cydweithredol cenedlaethol trwy'r cylch cynllunio.

 

Cyllid

 

8. Ym mhapur tystiolaeth Llywodraeth Cymru i'r Pwyllgor yn 2012, darparwyd manylion y gyllideb a fyddai'n cefnogi'r fframwaith fferyllfeydd cymunedol. Roedd yn dangos cynnydd o £96 miliwn yn 2005 i £145 miliwn yn 2011-12; sef 51% o gynnydd. Ers 2011-12, mae'r cyllid i gefnogi'r maes hwn wedi cynyddu ymhellach i £156 miliwn, sef buddsoddiad ychwanegol o £11 miliwn (8% o gynnydd). Mae hyn yn cynnwys y £3.6 miliwn o gyllid rheolaidd a drosglwyddwyd o'r gyllideb Gofal Iechyd a Gwasanaethau Ysbyty a Phresgripsiynu yn 2012-13 ar gyfer y Gwasanaeth Adolygu Meddyginiaethau wrth Ryddhau Cleifion.  Dylid ystyried y cyllid hwn yn rhan hanfodol o'r amlen gyffredinol o gyllid a ddarperir i Fyrddau Iechyd Lleol er mwyn iddynt ddarparu gwasanaethau ar draws yr amrywiaeth o feysydd â blaenoriaeth, gan gynnwys er enghraifft, y cyfraniad a wneir gan fferyllfeydd cymunedol i ddarparu gwasanaethau i gleifion a chanddynt gyflyrau cronig a negeseuon iechyd cyhoeddus a dargedir.

Seilwaith TG

 

9. Er 2005, mae Llywodraeth Cymru wedi buddsoddi £12.1 miliwn i ddatblygu seilweithiau Technoleg Gwybodaeth fferyllfeydd cymunedol. Bellach mae gan bob fferyllfa galedwedd a meddalwedd briodol, swyddogaeth e-byst, mynediad diogel i rwydwaith y GIG a system electronig i wneud hawliau gwasanaeth.

 

10. Ers i'r Pwyllgor gyhoeddi'r adroddiad, mae'r prosiect Trawsgrifio Meddyginiaethau ac e-Ryddhau (a elwir yn gyffredinol yn MTeD) wedi'i werthuso'n llwyddiannus ym Mwrdd Iechyd Caerdydd a'r Fro gan Wasanaeth Gwybodeg GIG Cymru (NWIS).  Mae'r prosiect hwn yn darparu gwybodaeth am gleifion wrth iddynt adael yr ysbyty, gan gynnwys y drefn ar gyfer cymryd meddyginiaeth, ar ffurf electronig i'r meddyg teulu. Mae NWIS bellach yn gweithredu hyn gyda'r Byrddau Iechyd Lleol.  

 

11. Cyhoeddwyd y gwerthusiad annibynnol o'r gwasanaeth Adolygu Meddyginiaethau wrth Ryddhau Cleifion yn gynharach eleni a ddadansoddodd 14,649 o ymyriadau a gyflawnwyd gan fferyllfeydd cymunedol. Dangosodd y dadansoddiad nodi fod y diffyg mynediad gan fferyllwyr cymunedol i wybodaeth ryddhau, a gwybodaeth electronig yn benodol am gleifion wrth iddynt gael eu rhyddhau o'r ysbyty, yn rhwystr sylweddol i weithredu'r gwasanaeth yn llawn. Ar y cyfan, dangosodd y gwerthusiad arbediad sylweddol o tua £3.5 miliwn mewn costau i'r GIG yr oedd modd eu hosgoi o ganlyniad i ymyriadau gan y gwasanaeth Adolygu Meddyginiaethau wrth Ryddhau Cleifion. O ganlyniad, roedd yn bleser gennyf gyhoeddi y bydd y gwasanaeth Adolygu Meddyginiaethau wrth Ryddhau Cleifion yn cael ei ymgorffori yn y Fframwaith Contractiol ar gyfer Fferyllwyr Cymunedol ar gyfer 2014-15 ymlaen.

 

12. Y flaenoriaeth yn awr yw symud i lwyfan TG diogel sy'n cefnogi darparu gwasanaethau cenedlaethol mewn fferyllfeydd cymunedol ac sy'n fodd i wybodaeth berthnasol am gleifion gael ei rhannu rhwng meddygon teulu, ysbytai a fferyllfeydd cymunedol; dyma elfen allweddol o gyflawni gwasanaeth gofal iechyd cymunedol a sylfaenol. 

 

13. Mae'r gwasanaeth braenaru Dewis Fferyllfa wedi darparu'r cyfle i ddatblygu a phrofi'n llwyddiannus model cofrestru cleifion a'r llwyfan TG ategol sy'n galluogi'r wybodaeth berthnasol am gleifion i gael ei chadw'n electronig. Bydd prosiect ychwanegol newydd sef "Improving Connectivity" yn adeiladu ar y gwaith hwn a gwaith y prosiect Trawsgrifio Meddyginiaethau ac e-Ryddhau i ddatblygu ymhellach y llwyfan TG a phrofi'r broses o rannu gwybodaeth am gleifion yn ddiogel ac mewn amser real rhwng gofal sylfaenol a gofal eilaidd. Mae hefyd yn cyfrannu at wireddu'r uchelgais hirdymor o symud tuag at system gofal iechyd gwbl integredig er mwyn rhannu gwybodaeth  rhwng clinigwyr gofal eilaidd, meddygon teulu a fferyllwyr cymunedol yn syth pan gaiff claf ei ryddhau o'r ysbyty. Mae'r prosiect newydd yn cael ei gefnogi gan ddyfarniad o £280,000 gan Gronfa Technoleg Iechyd ac Arloesedd Llywodraeth Cymru. Mae'r prosiect yn un o gyfres o dri phrosiect sy'n canolbwyntio ar ofal sylfaenol a gefnogir gan y gronfa hon gan gynrychioli cyfanswm buddsoddiad o £2.33 miliwn.  Bwriad y tri phrosiect yw gwella'r cysylltiad rhwng gofal sylfaenol ac eilaidd ym maes fferyllfeydd, deintyddiaeth ac optometreg gymunedol.

 

 

Datblygiadau Gwasanaeth Fferyllfeydd Cymunedol

 

14. Bu pedwar datblygiad fferylliaeth allweddol er 2012.

 

·           Sefydlu'r gwasanaeth Adolygu Meddyginiaethau wrth Ryddhau Cleifion fel rhan annatod o'r contract fferylliaeth gymunedol;

 

·           Creu dau safle braenaru Dewis Fferyllfa (anhwylderau cyffredin);

 

·         Darparu brechiadau ffliw; ac,

 

·         Adolygu'r rheoliadau fferyllol.

 

Y Gwasanaeth Adolygu Meddyginiaethau wrth Ryddhau Cleifion

 

15. Cynhaliwyd gweithdy cenedlaethol ym mis Gorffennaf 2014 i drafod a dosbarthu canfyddiadau'r gwerthusiad. Canlyniad allweddol i'r adroddiad gwerthuso yw'r angen i osod y gwasanaeth yn y cyd-destun cyffredinol o wella'r wybodaeth am gleifion wrth iddynt gael eu rhyddhau o'r ysbyty ac rwyf i'n disgwyl i hyn gael ei gynnwys yng nghynlluniau'r Byrddau Iechyd Lleol sydd ar ddod. Mae'r gwasanaeth Adolygu Meddyginiaethau wrth Ryddhau Cleifion wedi helpu i fynd i'r afael â phroblem a gydnabyddir yn rhyngwladol; osgoi gwallau presgripsiynu difrifol neu o bosibl angheuol wrth i gleifion newid rhwng lleoliadau gofal. Mae'n wasanaeth sy'n gysylltiedig â budd sylweddol i gleifion ac mae'n rhaid ei ehangu a'i ddatblygu ymhellach gan Fyrddau Iechyd.

 

Dewis Fferyllfa

 

16. Mae'r prosiectau braenaru Dewis Fferyllfa yng Ngogledd Cymru a Chwm Taf yn datblygu'n dda ac maent yn dangos cynnydd rheolaidd yn nifer y cleifion sy'n defnyddio'r gwasanaeth. Hyd yn hyn, mae dros 1300 o gleifion wedi cofrestru ac wedi cael mynediad i'r gwasanaeth. Mae 6% wedi cael cyngor a gwybodaeth am hunanofal yn unig, ac mae 94% wedi cael meddyginiaeth i drin eu cyflwr hefyd. Yn ystod un mis ar ddeg cyntaf y gwasanaeth, mae un o bob saith claf wedi dychwelyd o leiaf unwaith i gael cyngor a thriniaeth bellach. Cafodd proses werthuso annibynnol ei chynnwys yn rhan o'r prosiect o'r dechrau ac mae'n archwilio effeithlonrwydd clinigol a chost y gwasanaeth; yn benodol effaith y gwasanaeth ar hyrwyddo hunanofal a'r graddau y mae'n rhyddhau amser i feddygon teulu ddelio ag achosion mwy cymhleth. Disgwylir yr adroddiad terfynol yn ystod gwanwyn 2015 a bydd yn llywio’r penderfyniad ynghylch cyflwyno'r gwasanaeth yn genedlaethol. 

 

 

 

Gwasanaeth Brechiadau Ffliw

 

17. Yn 2012-13, cymerodd 81 o fferyllfeydd ledled Cymru ran yn y  gwasanaeth brechiadau ffliw tymhorol gan fferyllfeydd cymunedol cenedlaethol, sef y gwasanaeth cyntaf a'r unig un o'i fath yn y DU. Nifer isel o frechiadau a roddwyd, tua 1600, ac roedd y niferoedd yn amrywio ledled Cymru gan adlewyrchu'r meini prawf cymhwyster a gwasanaeth gwahanol ar draws pob Bwrdd Iechyd Lleol. Fodd bynnag, nid oedd cyfran weddol uchel (31%) o'r rheini a gafodd frechiad gan fferyllwyr cymunedol wedi cael brechiad yn 2011-12. Mae hyn yn cefnogi'r farn y gall hygyrchedd fferyllfeydd cymunedol wneud cyfraniad pwysig o ran cynyddu'r nifer sy'n cael y brechiad.

 

18. Gan adeiladu ar brofiad 2012-13, gwnaethom safoni'r meini prawf cymhwyster a gwasanaeth ar gyfer gaeaf 2013-14. Gofynasom hefyd i Fyrddau Iechyd Lleol sicrhau bod dim llai na 25% o'r holl fferyllfeydd yn darparu brechiadau ffliw. Ar draws Cymru cymerodd 195 o fferyllfeydd ran yn 2013-14, gan ddarparu 7851 o frechiadau; ac roedd un o bob pedwar brechiad i bobl na chafodd eu brechu yn 2012-13. Mae hyn yn cadarnhau'r cyrhaeddiad y gall fferyllfeydd cymunedol ei gael yn y gymuned a'r cyfraniad y maent yn gallu ei wneud at yr agenda iechyd ehangach.

 

19. Mae Byrddau Iechyd Lleol wedi dechrau cynllunio ar gyfer gaeaf eleni ac rwyf i'n disgwyl gweld fferyllfeydd cymunedol yn gyfranwyr allweddol at yr agenda pwysig hwn.

 

Adolygu'r Rheoliadau Fferyllol

 

209. Yn ystod 2012, gweithiasom yn agos gyda Byrddau Iechyd a fferyllfeydd cymunedol ar adolygiad cynhwysfawr o Reoliadau’r GIG Gwasanaethau Fferyllol (1992). Arweiniodd hyn at reoliadau cyfunol newydd a ddaeth i rym fis Mai'r llynedd.

 

21. Mae'r rheoliadau newydd wedi'u symleiddio i wella cadernid a chyflymder penderfyniadau gan Fyrddau Iechyd ar geisiadau i'r rhestr fferyllol (Rheoli Mynediad). Bwriad y newidiadau hefyd oedd lleihau nifer yr apeliadau, ac o ganlyniad byrhau'r amser rhwng gwneud y cais ac agor y safle.

 

22. Yn ogystal, roedd y rheoliadau'n cyflwyno cost a godwyd gan Fyrddau Iechyd am wneud cais ac mae hyn eisoes wedi lleihau'n sylweddol nifer y ceisiadau gobeithiol. Ar y cyfan, yr effaith a fwriadwyd gan y rheoliadau a ddisgrifir uchod yw helpu i greu amgylchedd mwy sefydlog i fferyllfeydd cymunedol ddatblygu'u gwasanaethau. Bydd cyflwyno asesiad o anghenion fferyllol i'r drefn cynllunio iechyd yn atgyfnerthu sefydlogrwydd y fferyllfeydd hynny sy'n parhau i ddarparu amrywiaeth gynhwysfawr o wasanaethau sy'n bodloni anghenion y gymuned y maent yn ei gwasanaethu.

 

 

 

 

Addysg a Datblygu'r Gweithlu

 

23. Mae addysg, hyfforddiant a datblygiad proffesiynol parhaus yn gydrannau hanfodol i'n helpu i gyflawni'r weledigaeth ar gyfer fferyllfeydd fel y nodwyd yn Law yn Llaw at Iechyd. Ers i'm rhagflaenydd adrodd i'r Pwyllgor rydym wedi comisiynu Gwasanaethau'r Gweithlu, Addysg a Datblygu i gynnal adolygiad o'r gweithlu fferyllol yng Nghymru. Bydd yr adolygiad, sydd i fod i gael ei gwblhau erbyn gwanwyn y flwyddyn nesaf, yn sail ar gyfer datblygu a gweithredu cynllun datblygu ar gyfer y gweithlu fferyllol a fydd yn darparu gweithlu cadarn, cynaliadwy, fforddiadwy a hyblyg i Gymru.

 

24. Rydym ar hyn o bryd yn buddsoddi £4.3 miliwn mewn addysgu a hyfforddi fferyllwyr ac rwyf i'n glir bod yn rhaid i ni symud i gwricwlwm israddedig academaidd/ymarferol integredig. Bydd hyn, ar y cyd â dull safonedig o ymdrin ag achredu gwasanaethau fferyllol cymunedol yn cefnogi ein gweledigaeth i gael gwasanaeth iechyd cenedlaethol integredig sy'n defnyddio sgiliau clinigol fferyllwyr yn llawn boed eu bod yn gweithio yn y sector a reolir neu mewn gofal sylfaenol.

 

25. Cafodd y dymuniad i gryfhau arweinyddiaeth glinigol hefyd ei adlewyrchu yn fy nghyhoeddiad yn gynharach eleni ynghylch sefydlu statws Fferyllydd Ymgynghorol. Mae'r newid sylweddol hwn yn cyfoethogi gyrfa ymarferwyr fferyllol trwy greu swyddi uwch ar gyfer ein hymarferwyr sydd ar flaen y gad, gan helpu i'w cadw mewn rolau sy'n delio â chleifion yn hytrach na'u colli i swyddi rheoli wrth iddynt symud ymlaen â'u gyrfaoedd.

 

26. Bydd cyfeiriad taith y gweithlu fferyllol yn dod â buddion ychwanegol i gleifion trwy ddarparu gofal iechyd diogel o safon uchel trwy fewnbwn clinigol a fferyllol cynyddol lle mae'n cael ei ddarparu, er enghraifft wrth drin cyflyrau hirdymor, gofalu am yr henoed gartref neu mewn cartrefi gofal.

 

27. Nodaf isod fy niweddariad ar argymhellion y Pwyllgor:

 

 

Argymhelliad 1

 

Llywodraeth Cymru i wella'r mecanweithiau cyfathrebu y mae'n eu defnyddio i roi gwybod i'r cyhoedd am y gwasanaethau sydd ar gael mewn unrhyw fferyllfa gymunedol unigol. I'r perwyl hwn, rydym yn argymell bod Llywodraeth Cymru'n ei gwneud yn orfodol i bob fferyllfa gymunedol roi hysbyseb amlwg ar ei safle sy'n nodi'r amrywiaeth o wasanaethau sydd ar gael yn y fferyllfa honno

 

 

Mae'r fframwaith contractiol ar gyfer fferyllwyr cymunedol eisoes yn ei gwneud yn ofynnol i fferyllwyr cymunedol ddarparu gwybodaeth i'r cyhoedd am y gwasanaethau GIG a ddarperir. Mae offer archwilio a gyflwynwyd yn 2013 yn ei gwneud yn ofynnol i Fferyllwyr Cymunedol roi gwybod eu bod yn cydymffurfio ag amrywiaeth o faterion contract i Fyrddau Iechyd. Mae'r data'n dangos gwelliant cyson ac mae 86% o'r fferyllfeydd yn nodi eu bod yn dangos gwybodaeth glir sy'n nodi'r gwasanaethau a ariennir gan y GIG y maent yn eu darparu.

 

Rydym wedi bod yn gweithio gyda Fferylliaeth Gymunedol Cymru i fynd â hyn gam ymhellach a datblygu canllaw i fferyllfeydd ar sut y gallant hyrwyddo'u gwasanaethau a defnyddio brand GIG Cymru, gan gynnwys defnyddio enwau gwasanaethau a disgrifiadau safonedig, dwyieithog sy'n adnabyddus trwy Gymru. Rhagwelwn y bydd hyn yn cael ei roi ar waith mewn fferyllfeydd cymunedol ddechrau 2015 ac rwyf i'n ddiolchgar am gymorth Fferylliaeth Gymunedol Cymru i ddatblygu'r maes hwn.

 

 

Argymhelliad 2

 

Mae Llywodraeth Cymru'n darparu arweinyddiaeth genedlaethol glir ar gyfer datblygu gwasanaethau fferylliaeth gymunedol at y dyfodol i sicrhau bod y polisïau a'r strwythurau hanfodol ar waith i ddiogelu'r ddarpariaeth. Dylai hyn gynnwys blaenoriaethau y cytunwyd arnynt yn genedlaethol ar gyfer y gwasanaeth a chyfeiriad a yrrir yn ganolog ar gyfer datblygu'r ddarpariaeth.

 

 

Mae ymateb Llywodraeth Cymru i adroddiad 2012 a'r argymhelliad penodol hwn yn disgrifio sut y mae'r Fframwaith Contractiol ar gyfer Fferyllwyr Cymunedol yn darparu'r mecanwaith i gyflwyno gwasanaethau fferylliaeth gymunedol newydd. Mae'r gwasanaethau hyn yn cefnogi polisïau a blaenoriaethau iechyd Llywodraeth Cymru ac mae ganddynt fanylebau a ffioedd cenedlaethol ac maent yn cynnwys:

 

 

Mae gan bob un o'r gwasanaethau a nodwyd yn genedlaethol weithdrefnau hyfforddi ac achredu unedig i gefnogi cysondeb ledled Cymru. Yr un gwasanaeth lle cafwyd anhawster o ran cytuno ar fanyleb unigol yw rhoi'r gorau i ysmygu.  Fodd bynnag, mae'r gwaith yn datblygu gyda Fferylliaeth Gymunedol Cymru a Byrddau Iechyd a rhagwelir y sefydlir manyleb genedlaethol y flwyddyn nesaf.

 

Mae'r crynodeb uchod yn disgrifio polisïau a chefnogaeth Llywodraeth Cymru ar gyfer gwasanaeth gofal sylfaenol cryfach lle mae'r claf yn ganolbwynt i dîm amlddisgyblaethol. Mae Llywodraeth Cymru'n disgwyl i Fyrddau Iechyd sicrhau bod yr amrywiaeth lawn o wasanaethau cenedlaethol ar gael, fel sy'n briodol, mewn fferyllfeydd cymunedol ledled Cymru. Y disgwyliad i Fyrddau Iechyd yw sicrhau bod yr amrywiaeth o wasanaethau fferyllfeydd cymunedol ar gael yn rhan o becyn cynhwysfawr o wasanaethau gofal cymunedol a sylfaenol a gynlluniwyd. Tanategir hyn gan y gofyniad ar Fyrddau Iechyd i fewngorffori asesiad o anghenion fferyllol fel elfen annatod o'r cylch cynllunio gwasanaethau a bydd yn helpu i oresgyn unrhyw rwystrau diangen i weithredu'r gwasanaeth. (Mae paragraffau 4 – 6 yn rhoi rhagor o fanylion).

 

Argymhelliad 3

 

Mae'r Pwyllgor yn argymell y dylai Llywodraeth Cymru gymryd y cyfle a ddarparwyd gan y cynllun mân anhwylderau cenedlaethol a gyhoeddwyd yn ddiweddar i ystyried newidiadau i'r ffordd y caiff fferyllfeydd cymunedol eu talu, gan gynnwys symud i daliadau sy'n seiliedig ar dâl y pen, a danategir gan system cofrestru cleifion.

 

Pan fu fy rhagflaenydd i'r cyfarfod Pwyllgor ym mis Ionawr 2012, cynghorodd hithau fod sefydlu cynllun anhwylderau cyffredin yn darparu mecanwaith i brofi a chyflwyno taliadau sy'n seiliedig ar dâl y pen a chofrestru cleifion. Mae'r gwasanaeth, a lansiwyd fel Dewis Fferyllfa ym mis Medi 2013, yn talu'r fferyllfeydd sy'n cymryd rhan yn seiliedig ar nifer y cleifion sydd wedi cofrestru ac sy'n defnyddio'r gwasanaeth h.y. ar sail tâl y pen.

 

Mae'n bwysig ein bod yn bwyllog wrth gyflwyno taliadau sy'n seiliedig ar dâl y pen ar gyfer gwasanaethau eraill. Mae'n gysyniad gwahanol yn y byd fferyllol ond rwyf i'n credu bod ganddo'r potensial i fod yn rhan o amgylchedd proffesiynol ac ariannol mwy sefydlog ac effeithlon ar gyfer ein contractwyr fferylliaeth gymunedol, lle gallant fuddsoddi mewn datblygu gwasanaethau ychwanegol i hyrwyddo ac amddiffyn iechyd. Mae'r gwasanaeth Dewis Fferyllfa yn cael ei werthuso'n annibynnol a bydd canlyniadau'r gwerthusiad hwnnw'n helpu i lywio ein penderfyniadau yn y dyfodol ynghylch cyflwyno system cofrestru cleifion a thaliadau sy'n seiliedig ar dâl y pen.

 

Mae rhyw fath o broses ar gyfer cofrestru cleifion neu enwebu fferyllfa yn ofynnol i sicrhau llif gwybodaeth electronig rhwng sectorau gofal iechyd. Er bod consensws eang ymysg gweithwyr proffesiynol ynghylch egwyddorion sylfaenol rhannu gwybodaeth, yr her yw cael system sy'n cydbwyso'r angen i rannu gwybodaeth yn ogystal â chyfrinachedd cleifion a dewis cleifion. Mae modelau ar gyfer cofrestru cleifion a/neu enwebu fferyllfeydd yn cael eu harchwilio yn rhan o'r briff ar gyfer prosiect newydd "Improving Connectivity" y Gronfa Technoleg Iechyd ac Arloesedd (a ddisgrifir ym mharagraff 13 uchod). Mae Bwrdd Cymru y Gymdeithas Fferyllol Frenhinol a Fferylliaeth Gymunedol Cymru yn aelodau o Fwrdd y Prosiect ac maent wedi cytuno i weithio gyda ni i ddylunio model priodol sy'n cefnogi rhannu gwybodaeth briodol am gleifion rhwng fferyllfeydd cymunedol, meddygon teulu ac ysbytai ac sy'n tanategu system dalu sy'n seiliedig ar dâl y pen.

 

 

Argymhelliad 4

 

Mae Llywodraeth Cymru'n hyrwyddo ymhellach gwasanaethau gwell â manyleb genedlaethol ar gyfer fferyllfeydd cymunedol, gan gynnwys Gwasanaeth Cyflyrau Cronig cenedlaethol, ac mae'n dilyn y model cynyddol arfaethedig ar gyfer cyflwyno Cynllun Trin Mân Anhwylderau Cenedlaethol i sicrhau y caiff gwasanaethau'u monitro, eu gwerthuso a'u gwella'n gadarn. Mae'r Pwyllgor yn argymell lle y ceir yn amlwg gyflyrau iechyd cenedlaethol, y dylai'r gwasanaeth gael ei bennu'n genedlaethol, ond y dylid parhau i ganiatáu rhywfaint o le ar gyfer penderfynu ar faint a lleoliad gwasanaethau o'r fath yn lleol.

 

 

Mae'r crynodeb yn disgrifio ein dull arfaethedig o gryfhau rôl fferyllfeydd cymunedol o fewn y tîm gofal sylfaenol a chymunedol. Yn benodol, byddaf yn disgwyl i gynlluniau'r Byrddau Iechyd adlewyrchu asesiad cadarn o'r angen sy'n ymwneud â rheoli cyflyrau hirdymor a/neu gronig ynghyd â chyfeiriad eglur at y dewisiadau darparu gwasanaethau sydd ar gael; dylai hyn gynnwys defnyddio gwasanaethau cenedlaethol fferyllfeydd cymunedol fel y disgrifiais yn argymhellion dau a thri uchod.

 

Yn arbennig, mae'r gwasanaethau Adolygu'r Defnydd o Feddyginiaethau ac Adolygu Meddyginiaethau wrth Ryddhau Cleifion a dargedir yn canolbwyntio ar unigolion a chanddynt gyflyrau hirdymor neu gronig. Yn benodol hefyd, mae'r gwasanaeth sy'n Adolygu'r Defnydd o Feddyginiaethau yn ei gwneud yn ofynnol i fferyllfeydd gyflawni hanner yr holl adolygiadau gyda chleifion mewn grwpiau targed a nodwyd yn genedlaethol sy'n cynnwys cleifion sy'n dioddef o bwysedd gwaed uchel neu salwch anadlol. Y ddau gyflwr yr adroddir amlaf amdanynt yng Nghymru[2]. Bellach mae'r swyddogion yn trafod â Fferylliaeth Gymunedol Cymru i gynyddu'r gyfran o Adolygiadau o'r Defnydd o Feddyginiaethau a gyflawnir gyda grwpiau a dargedir.

 

 

Argymhelliad 5

 

Mae'r Pwyllgor yn argymell diogelu cyfraniad rheolaidd fferyllfeydd cymunedol ledled Cymru ar gyfer y rownd nesaf o ymgyrchoedd iechyd cyhoeddus, boed yn genedlaethol neu'n lleol. Mae'n ofynnol i Fyrddau Iechyd Lleol fonitro cyfranogiad fferyllfeydd cymunedol yn agos i sicrhau y caiff y rheini nad ydynt yn bodloni'u rhwymedigaethau contractiol eu dal yn atebol am beidio â chydymffurfio.

 

 

Ers cyhoeddi adroddiad y Pwyllgor cafwyd pum ymgyrch iechyd cyhoeddus fferylliaeth genedlaethol gan helpu i godi ymwybyddiaeth o faterion iechyd cyhoeddus pwysig megis lleihau'r risg o strôc, iechyd llygaid, cadw'n iach yn ystod y gaeaf, diogelwch yn yr haul a sgrinio coluddion. Fel y nododd y pwyllgor yn ei adroddiad yn 2012, mae cynnwys y trydydd sector yn yr ymgyrchoedd hyn yn ychwanegu'n fawr at eu heffaith ac rwyf i'n falch iawn o'r cydweithio rhwng fferyllfeydd a'r Gymdeithasol Strôc, Sefydliad Cenedlaethol Brenhinol Pobl Ddall, Age Cymru a Tenovous ar ymgyrchoedd diweddar. Mae'r ymgyrchoedd hyn yn effeithio'n gadarnhaol ar fywydau dinasyddion Cymru:

 

·         O ganlyniad i'r ymgyrch ymwybyddiaeth o'r strôc cynhaliwyd dros 10,000 o Adolygiadau o'r Defnydd o Feddyginiaethau gan fferyllwyr gyda phobl yn wynebu mewn risg uwch o gael strôc. Mae ymgyrch ymwybyddiaeth o'r strôc newydd yn cael ei datblygu gan Iechyd Cyhoeddus Cymru ar gyfer Ionawr – Mawrth 2015 ac mae fferyllfeydd cymunedol wrth wraidd yr ymgyrch.

 

·         Cafodd yr ymgyrch gofalu am eich llygaid gydnabyddiaeth ledled y DU a chafodd Wobr Arloesedd Amlddisgyblaetholyn seremoni wobrwyo fferyllfeydd cymunedol y DU yn gynharach eleni. Dengys y canlyniadau fod y cynllun wedi effeithio'n gadarnhaol ac yn sylweddol ar adnabod a chyfeirio unigolion at Wasanaeth Gofal Llygaid Cymru.

 

·         O ganlyniad i'r ymgyrch here comes the sun a gynhaliwyd ym mis Mai 2014, daeth tua 6,000 o bobl i gael cyngor gan fferyllwyr ar sut i leihau eu risg o ddatblygu canser y croen.

 

Mae'r enghreifftiau hyn o wasanaethau iechyd cyhoeddus yn tanategu cyfraniadau cadarnhaol fferyllfeydd cymunedol o ran darparu negeseuon iechyd cyhoeddus a datblygu hydwythedd yn ein cymunedau i gefnogi'r agenda cydgynhyrchu trwy helpu pobl i wneud penderfyniadau cadarnhaol am eu hiechyd.

 

Cyfrifoldeb Byrddau Iechyd yw sicrhau lefel briodol o gyfranogiad gan fferyllfeydd cymunedol mewn ymgyrchoedd iechyd cyhoeddus. Mae Fferylliaeth Gymunedol Cymru hefyd yn chwarae rôl allweddol o ran hwyluso cyfranogiad ar y lefel leol a chynhyrchu diddordeb yn y cyfryngau. Mae swyddogion yn siarad yn rheolaidd â Fferylliaeth Gymunedol Cymru a Byrddau Iechyd i drafod a chynllunio ymgyrchoedd iechyd cyhoeddus gan gynnwys mynd i'r afael â materion megis cynyddu lefelau cyfranogiad fferyllfeydd cymunedol.

 

Mae'n amlwg mai rôl Llywodraeth Cymru yw sicrhau bod gan Fyrddau Iechyd yr offer sy'n ofynnol iddynt reoli tanberfformiad yn effeithiol ac yn gymesur. Efallai fod aelodau'r Pwyllgor wedi nodi bod y cynigion ar gyfer asesu anghenion fferyllol a nodwyd yn y papur gwyn diweddar ar iechyd cyhoeddus hefyd yn cynnwys cynigion i gryfhau'r sancsiynau sydd ar gael i Fyrddau Iechyd fynd i'r afael â materion tanberfformio; byddai hyn yn cynnwys methu â chymryd rhan mewn ymgyrchoedd iechyd cyhoeddus. Credaf mai cydweithio yw'r ffordd fwyaf effeithiol o wella lefelau cyfranogiad. Fodd bynnag, bydd dechrau asesu anghenion fferyllol a chyflwyno sancsiynau yn galluogi Byrddau Iechyd i wneud penderfyniadau ar geisiadau i'r rhestr fferyllol yn seiliedig ar ymrwymiad penodol yr ymgeisydd i ddarparu'r amrywiaeth o wasanaethau gofynnol i fodloni'r angen a aseswyd.

 

 

 

 

 

Argymhelliad 6

 

Mae'r Pwyllgor yn argymell bod Llywodraeth Cymru a Byrddau Iechyd Lleol yn blaenoriaethu gweithredu'n rhagweithiol i fynd i'r afael â materion cydweithredu a chydweithio rhwng fferyllfeydd cymunedol a meddygon teulu, mewn ardaloedd gwledig a threfol. Rydym yn credu bod arweinyddiaeth well gan y proffesiynau yn y cyd-destun hwn yn hanfodol i ddiogelu'r perthnasoedd cryfach rhwng gweithwyr iechyd proffesiynol allweddol y mae eu hangen ar gyfer integreiddio gwasanaethau fferylliaeth gymunedol yn llwyddiannus a gwireddu uchelgeisiau'r Llywodraeth o ran gofal sylfaenol yng Nghymru.

 

 

Ym mharagraff 7, rwyf wedi nodi bod y cyfrifoldeb dros gyflawni cydweithio trwy gyd-ddealltwriaeth a pharch yn nwylo'r proffesiynau a'r Byrddau Iechyd. Y datganiad ar y cyd ar gydweithio rhwng Coleg Brenhinol yr Ymarferwyr Cyffredinol a'r Gymdeithas Fferyllol Frenhinol a gyhoeddwyd ym mis Gorffennaf 2011 yw'r platfform i Fyrddau Iechyd a gweithwyr iechyd proffesiynol integreiddio cydweithio er budd cleifion ar lefel leol.

 

Mewn rhai gwasanaethau, mae cydweithio'n llawer mwy eglur megis y gwasanaeth Dewis Fferyllfa a'r rhaglen brechiadau ffliw. Mae'r dystiolaeth sy'n dod i'r amlwg o werthusiad parhaus Dewis Fferyllfa yn dangos bod partneriaeth waith gryfach yn dod i'r amlwg rhwng meddygon teulu a fferyllwyr cymunedol oherwydd yr angen i ddatblygu llwybrau cyfeirio effeithiol. Mae hyn yn fwyaf nodedig lle'r oedd perthnasoedd eisoes wedi'u sefydlu ac yn darparu sail i alluogi integreiddio pellach.

 

Ym mis Rhagfyr y llynedd, hwylusodd Conffederasiwn GIG Cymru drafodaeth ar gydweithio rhwng cynrychiolwyr o fferyllfeydd cymunedol a meddygfeydd teulu. Nodasant nifer o feysydd ar gyfer cydweithio arnynt ar unwaith a fyddai'n arwain at fuddion cadarnhaol, gan gynnwys: ymwrthedd i wrthfiotigau, gwella ymlyniad wrth feddyginiaethau a gofalu am unigolion mewn cartrefi preswyl neu gleifion sy'n gaeth i'w cartref.

 

Mae hyn yn cefnogi nod strategol Llywodraeth Cymru i gynllunio a darparu gymaint â phosibl o ofal iechyd yn y cartref, neu mor agos â phosibl at y cartref trwy wasanaethau gofal cymunedol a sylfaenol amlddisgyblaethol wedi'u trefnu'n fanwl a luniwyd o gwmpas yr unigolyn ac sydd wedi'u hintegreiddio â gofal eilaidd a chymdeithasol. Ym mis Ionawr 2014, fe ailbwysleisiais i'r GIG fod yn rhaid iddo gychwyn ar newid parhaol o ran ffocws yr arweinyddiaeth a buddsoddi adnoddau mewn gofal sylfaenol a chymunedol. Mae datblygu'r 64 "clwstwr" o feddygfeydd teulu'n cynnig cyfle gwirioneddol i dorri tir newydd o ran cynllunio a darparu gwasanaethau dan arweiniad lleol ac roedd yn bleser gennyf nodi y nododd y drafodaeth yn y grŵp angen i ymestyn grwpiau ardal i gynnwys fferyllfeydd cymunedol. Disgwyliaf weld y dyhead hwn yn cael ei adlewyrchu yng nghynlluniau Byrddau Iechyd ar gyfer 2015.

 

 

 

Er mwyn cefnogi Byrddau Iechyd i ail-gydbwyso adnoddau'n gynaliadwy rhwng gofal sylfaenol ac eilaidd, cyhoeddais ym mis Gorffennaf y byddai £3.5 miliwn yn ychwanegol yn cael ei ddarparu ar gyfer gofal sylfaenol a chymunedol yn 2014-15. Mae'r cyllid hwn yn canolbwyntio ar fynd i'r afael â'r ddeddf gofal wrthgyfartal a datblygu sgiliau timau gofal sylfaenol a chymunedol amlddisgyblaethol. Darparu cymorth rheoli meddyginiaethau fferyllol i feddygfeydd teulu yw un o'r meysydd rwyf i'n awyddus i'w gweld yn cael eu datblygu trwy ddefnyddio'r gronfa hon.

 

Argymhelliad 7

 

Mae'r Pwyllgor yn argymell bod fferyllfeydd cymunedol yn cael mynediad i grynodeb o gofnodion cleifion lle bo'r cleifion wedi cofrestru gyda fferyllfa gymunedol.

 

Dyluniwyd y model cofrestru cleifion a'r seilwaith TG, a ddatblygwyd i gefnogi'r gwasanaeth Dewis Fferyllfa, i arbrofi gyda mynediad fferyllfeydd cymunedol i blatfform TG GIG Cymru sy'n cadw gwybodaeth am gleifion. Mae hyn yn gam pwysig rydym yn ei ddatblygu trwy'r prosiect "Improving Connectivity" newydd a ddisgrifir ym mharagraff 13 ac yn yr adroddiad cynnydd ar gyfer argymhelliad tri.

 

Nododd adroddiad y Pwyllgor fod y rhwystr allweddol rhag cyfnewid gwybodaeth hanfodol am gleifion rhwng gweithwyr iechyd proffesiynol yn un proffesiynol. Rwyf i'n croesawu'r camau cadarnhaol sy'n cael eu cymryd gan feddygon teulu a'r proffesiwn fferyllol i gydweithio'n agosach ac rwyf i'n disgwyl gweld tystiolaeth bendant o gynnydd go iawn tuag at rannu gwybodaeth yn y tymor byr. I gloi ailbwysleisiaf sylw fy rhagflaenydd, mae'n rhaid anelu yn yr hirdymor at gael cofnod unigol i bob claf sy'n cael ei rannu'n briodol â gweithwyr gofal iechyd a chymdeithasol proffesiynol.

 

 



[1]The Positive Pharmacy Care Law: Todd  A, et al – BMJ Open 2014

[2]Arolwg Iechyd Cymru 2011. Ar gael yma:

http://wales.gov.uk/statistics-and-research/?skip=1&lang=cy